Hanes

Hanes

Sefydlodd y grwp fel Celt tua 10 mlynedd yn ôl. Roedd pawb yn byw o fewn hanner milltir i'w gilydd ac wedi eu magu yn Rachub, ger Bethesda.
Rhyddhaodd y grwp eu tap cynta "Da 'di'r hogia" eu hunain. Doedd Martin Beattie ddim yn aelod ar y dechrau, ond wedi iddo fo ymuno, rhyddhaodd Celt eu hail gaset sef "Cynffon" yn 1992, eto ar eu label eu hunain.
Ymunodd Barry Jones (Archie) efo Bryn Fôn, ond roedd yn dal i gyfansoddi caneuon, gan roi nifer i Bryn neu John ac Alun. Ond roedd yn cadw rhai gan ei fod yn dal i glywed lleisiau harmoni Steven Bolton a Martin Beattie yn eu canu. Ar ôl casglu tua dwsin o'r caneuon yma, dyma benderfynu ail afael yn Celt ac ymunodd dau aelod newydd, sef Sion o Maffia i chwarae'r gitar, a Rob ar yr allweddellau.
Erbyn hyn roedd y grwp yn fwy aeddfed efo naws gwahanol i'r Celt gwreiddiol. "Rydan ni wedi tyfu fyny'n feddyliol a lleisiol" meddai Archie. "Deni i gyd wedi bod yn gwrando ar wahanol fiwsig ac wedi arbrofi gan chware efo synnau gwahanol e.e. offeryne synthetig a drum machines ac effeithie gwahanol. Roedd Celt ar y dechre efallai yn syml ac yn swynol, ond erbyn hyn mae
yna rywbeth arall o dan yr harmoniau a'r melodiau."
Gofynwyd i SAIN i ariannu'r prosiect o gynhyrchu albwm newydd. Ac wele "@.com"! Recordiwyd yn stiwdio Brynderwen a chymysgwyd gan Sain. Caneuon Archie sydd ar y casgliad newydd ac mae 4 cân ganddo a dderbyniwyd i'r 8 olaf yng nghystadleuaeth "Cân i Gymru". Er ei fod yn doreithiog o syniadau am ganeuon, dydi Archie ddim yn meddwl ei fod yn fardd. "Does genna i ddim formula a does 'na ddim trefn i odli."
Pam y teitl "@.com"? "Roeddan ni isio rhywbeth bachog di-iaith efo term internetaidd, e-mailaidd!" meddai Archie. "Mae'r clawr yn cyfleu nad oes modd dianc oddi wrth y byd technolegol - mae'r bachgen bach (fy mab) wedi ei ddal ar Close Circuit TV a'r tu ôl iddo mae esculator Woolworth - eto i gyfleu'r dechnoleg o'n cwmpas yn ddyddiol. Mae'r teipograffeg coch ar y clawr hefyd yn cyfleu hynny."

yn ol