Sesiwn Fawr 2001

Sesiwn Fawr

                                                                                 Steve a Martin (celt)

 

Dwi di bod, a dwi di gweld. Dwi di meddwl am gair i'w ddisgrifio, ond yr unig peth fedrai ddweud ydi "words can't describe it."

Pan cyrhaeddais yno dydd gwener edrychais rownd, oedd hi tua 3 o'r gloch, ac doedd yna ddim llawer o pobl yno, doedd y bandiau heb dechrau, ac oedd hi'n stido bwrw glaw. Ond pan ddaeth y pobl i gyd, a pan wnaeth y strydodd dechrau llenwi, dechreuodd y bandiau, oedd pawb yn cael amser da, ond oherwydd y diod yr unig peth syna i'w ddweud ydi neshi deffro yn y bora heb pres oherwydd y ffaith fy mod i di colli fy 'wallet', ac oedd fy nghap ar goll, ac fy watch wedi torri. Ond dwi dal yn gwybod fy mod i di gal uffar o noson dda. Cefais hyd i fy nghap gyn David 'Tiny', a cefais fenthyg £10 gan Daniel i wneud i fyny am y £30 a gollais y noson cynt. Dechreuo'n ni yfad tua 7 o'r gloch bore ond ddim ond yfad yn araf, oedd pawb efo 'hang over'. Dydd Sadwrn oedd pawb yn edrych ymalen i weld Celt, oedd y band yn dechrau chwarae am 9:30 o'r gloch y noson honno, roeddym ni yn edrych ymlaen. Aethom ni i gael brecwast am tua 9 y bore honno, i ryw lle o'r enw Bwyd Da neu rhywbeth felly, oedd y bwyd yn fendigedig (full breakfast). Pan agorodd tafarn y Unicorn, aethom ni trwy'r torf i'r beer garden yn y cefn, cafon ni laugh yn fyna tan tua 1:30, wedyn aethom ni allan i'r stryd i weld be oedd yn mynd ymlaen, dwi ddim yn cofio lle aethom ni wedyn i ddweud y gwir, ond tua 4 gwelson ni the one and only Steven John (Mr. John), tu allan i'r unicorn hefo'i ffrindiau a'i gariad, wedyn gwelson ni the other one and only Paul Owen (Dr. Paul Owen) hefo'i gariad o. Nath neb nabod o heb ei sbectol. Odd Bryn Hughes a Huw Gareth a fi di cael hyd i stall yn gwerthu Sidekick (bloody cryf am un shot), neshi ddweud fy mod i ddim isho mynd mor chwil y noson yno am fy mod isho gweld Celt, cefais ddau ohonynt ac oedd hyna yn ddigon i mi, ar ol pedwar neu bymp dechreuod Huw fod yn sal, odd Bryn dal i fynd, yn y diwedd odd Bryn a Huw di yfad tua 16 yr un. Nath hyna gostio nhw tua £20 yr un (£1.25 each), wedyn ddaeth Celt a'i stwff ar y llwyfan a dechreuodd pawb weiddi, pwy bynnag odd yr hen foi a oedd yn dweud pwy odd ar y llwyfan, ni chafodd o lawer o siawns efo'r swn i gyd, y munud a ddywedodd o gair Celt odd yna ddim lle i symyd ac odd y swn yn anhygoel. Dwi isho diolch i'r band am y noson gorau o fy mywyd i gyd oherwydd nhw. Oedd Martin, Steve, Alwyn, Archie a Sion yn brilliant, a'r boi ar y bongos hefyd. Odd ei fersiwn nhw o Coeden Ffati Dew gan Caban yn ardderchog, ac hefyd oedd ei caneuon newydd yn well byth yr unig can newydd dwi'n cofio glywed ei enw oedd Telegysyllta, dwi ddim yn cofio enwau'r lleill. Oedd y noson yno yn fythgofiadwy ar ol Celt. Dim ots am y dydd Sul achos odd popeth bron di mynd, odd y ddau llwyfan blaenorol wedi mynd ac dim ond ddau llwyfan odd ar ol, es i adref tua 2:30, arhosodd Nerys Edwards, Ceri Edwards, Manon Huws a Lleucu Williams yno tan y nos (peth stupid i neud).

Fyswn yn licio diolch i pawb a trefnodd y sesiwn, yn y dyfodol fyswn yn licio gweld Celt, Big Leaves ac Anweledig yn ol yno.

Y crowd yn y dydd (oedd y crowd wedi dwblu erbyn y nos Sadwrn)

Sesiwn Fawr

yn ol